P-05-833 Gwella gwasanaethau rheilffordd i Gas-gwent
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Richard Lemon, ar ôl casglu 260 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y cytundeb masnachfraint ar gyfer gweithredwr newydd Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau er mwyn gwella'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig i Gas-gwent. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan y bydd Cross Country yn rhoi'r gorau i redeg trenau o Gas-gwent. Mae'r bwriad i redeg dim ond un trên yr awr i dref o faint a phwysigrwydd Cas-gwent - pen pellaf y rheilffordd yn Nyffryn Gwy - yn wael dros ben, o'i gymharu â'r gwasanaeth yn nhrefi eraill ein sir a rheilffyrdd y cymoedd. Dylid darparu dau drên bob awr o leiaf. Rydym yn cydnabod bod angen annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle'u ceir er mwyn helpu'r amgylchedd. Mae'r gwaith o wella gwasanaethau trên yn gam tuag at hyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Anfonwyd sylwadau'n tynnu sylw at hyn cyn dyfarnu masnachfraint newydd Cymru a'r Gororau. Ymddengys bod y sylwadau hyn wedi'u diystyru.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Mynwy
· Dwyrain De Cymru